Esra 1:2-3
Esra 1:2-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei DDUW gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiladed dŷ ARGLWYDD DDUW Israel, (dyna y DUW,) yr hwn sydd yn Jerwsalem.
Esra 1:2-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae’r ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Os ydych chi’n perthyn i’w bobl cewch fynd yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml yno i’r ARGLWYDD, Duw Israel – sef y duw sydd yn Jerwsalem. A Duw fyddo gyda chi!
Esra 1:2-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia: Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y byd i mi, ac wedi gorchymyn i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pob un o'ch plith sy'n perthyn i'w bobl, bydded ei Dduw gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i ailadeiladu tŷ ARGLWYDD Dduw Israel, y Duw sydd yn Jerwsalem.