Esra 2:68-69
Esra 2:68-69 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd o'u gwirfodd i ailgodi tŷ Dduw ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu. Rhoesant i drysorfa'r gwaith chwe deg ac un o filoedd o ddracmonau aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.
Esra 2:68-69 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan gyrhaeddon nhw deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, dyma rhai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu’n hael tuag at ailadeiladu teml Dduw ar ei safle wreiddiol. Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur, 2,800 cilogram arian, a 100 o wisgoedd i’r offeiriaid.
Esra 2:68-69 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac o’r pennau-cenedl pan ddaethant i dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr ARGLWYDD, i’w gyfodi yn ei le. Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid.