Galatiaid 2:20
Galatiaid 2:20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach, nid myfi sy'n byw, ond Crist sy'n byw ynof fi. A'r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a'm carodd i ac a'i rhoes ei hun i farw trosof fi.
Rhanna
Darllen Galatiaid 2Galatiaid 2:20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
ac felly nid fi sy’n byw bellach, ond y Meseia sy’n byw ynof fi. Dw i’n byw y math o fywyd dw i’n ei fyw nawr am fod Mab Duw wedi bod yn ffyddlon, wedi fy ngharu i a rhoi ei hun yn aberth yn fy lle i.
Rhanna
Darllen Galatiaid 2Galatiaid 2:20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi.
Rhanna
Darllen Galatiaid 2