Galatiaid 4:6-8
Galatiaid 4:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A chan eich bod yn blant, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau, yn llefain, “Abba! Dad!” Felly, nid caethwas wyt ti bellach, ond plentyn; ac os plentyn, yna etifedd, trwy weithred Duw. Gynt, yn wir, a chwithau heb adnabod Duw, caethweision oeddech i fodau nad ydynt o ran eu natur yn dduwiau.
Galatiaid 4:6-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy’n gweiddi, “ Abba ! Dad!” Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau’n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi. O’r blaen, cyn i chi ddod i wybod am Dduw roeddech chi’n gaeth i bwerau sy’n cael eu galw’n ‘dduwiau’ ond sydd ddim wir yn dduwiau.
Galatiaid 4:6-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad. Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist. Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.