Galatiaid 5:4-6
Galatiaid 5:4-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os dych chi’n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau’r Gyfraith, dych chi wedi’ch torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw. Ond wrth gredu a byw yn nerth yr Ysbryd dŷn ni’n gallu edrych ymlaen yn frwd at gael perthynas hollol iawn gyda Duw – dyna’n gobaith sicr ni. Os oes gynnoch chi berthynas gyda’r Meseia Iesu does dim gwahaniaeth os dych chi wedi bod drwy’r ddefod o gael eich enwaedu neu beidio. Credu sy’n bwysig – ffydd yn mynegi ei hun mewn bywyd o gariad.
Galatiaid 5:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwi sy'n ceisio cyfiawnhad trwy gyfraith, y mae eich perthynas â Christ wedi ei thorri; yr ydych wedi syrthio oddi wrth ras. Ond yr ydym ni, yn yr Ysbryd, trwy ffydd, yn disgwyl am y cyfiawnder yr ydym yn gobeithio amdano. Oherwydd yng Nghrist Iesu nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithredu trwy gariad.
Galatiaid 5:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Chwi a aethoch yn ddi-fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras. Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder. Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad.