Galatiaid 6:7-8
Galatiaid 6:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Peidiwch twyllo’ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw’n ei hau. Bydd y rhai sy’n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy’n byw i blesio’r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o’r Ysbryd.
Galatiaid 6:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi. Bydd y sawl sy'n hau i'w gnawd ei hun yn medi o'i gnawd lygredigaeth, a'r sawl sy'n hau i'r Ysbryd yn medi o'r Ysbryd fywyd tragwyddol.
Galatiaid 6:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe. Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol.