Genesis 1:26-27
Genesis 1:26-27 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni’n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy’n gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a’r holl greaduriaid a phryfed sy’n byw arni.” Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. Yn ddelw ohono’i hun y creodd nhw. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw.
Genesis 1:26-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear.” Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.
Genesis 1:26-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear. Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.