Genesis 1:27-31
Genesis 1:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy. Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear.” A dywedodd Duw, “Yr wyf yn rhoi i chwi bob llysieuyn sy'n dwyn had ar wyneb y ddaear, a phob coeden â had yn ei ffrwyth; byddant yn fwyd i chwi. Ac i bob bwystfil gwyllt, i holl adar yr awyr, ac i bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, popeth ag anadl einioes ynddo, bydd pob llysieuyn glas yn fwyd.” A bu felly. Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn. A bu hwyr a bu bore, y chweched dydd.
Genesis 1:27-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. Yn ddelw ohono’i hun y creodd nhw. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy’n hedfan yn yr awyr, a’r holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.” Dwedodd Duw, “Edrychwch. Dw i wedi rhoi’r planhigion sydd â hadau a’r ffrwythau ar y coed i gyd, i fod yn fwyd i chi. A dw i wedi rhoi’r holl blanhigion yn fwyd i’r bywyd gwyllt a’r adar a’r holl greaduriaid bach eraill sydd ar y ddaear – ie, pob un creadur byw.” A dyna ddigwyddodd. Edrychodd Duw ar bopeth roedd wedi’i wneud, a gweld fod y cwbl yn dda iawn. Ac roedd nos a dydd ar y chweched diwrnod.
Genesis 1:27-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt. DUW hefyd a’u bendigodd hwynt, a DUW a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear. A DUW a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi. Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu. A gwelodd DUW yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a’r bore a fu, y chweched dydd.