Genesis 18:10-14
Genesis 18:10-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma un ohonyn nhw’n dweud, “Dw i’n mynd i ddod yn ôl yr adeg yma’r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd. (Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.) Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd hi’n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i’n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae fy meistr yn hen ddyn hefyd.” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i’n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’ Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i’n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma’r flwyddyn nesa, a bydd Sara’n cael mab.”
Genesis 18:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dof yn ôl atat yn sicr yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara dy wraig fab.” Yr oedd Sara yn gwrando wrth ddrws y babell y tu ôl iddo. Yr oedd Abraham a Sara yn hen, mewn gwth o oedran, ac yr oedd arfer gwragedd wedi peidio i Sara. Am hynny, chwarddodd Sara ynddi ei hun, a dweud, “Ai wedi imi heneiddio, a'm gŵr hefyd yn hen, y caf hyfrydwch?” A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, “Pam y chwarddodd Sara a dweud, ‘A fyddaf fi'n wir yn planta, a minnau'n hen?’ A oes dim yn rhy anodd i'r ARGLWYDD? Dof yn ôl atat ar yr amser penodedig, yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara fab.”
Genesis 18:10-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth; ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ôl ef. Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd. Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a’m harglwydd yn hen hefyd? A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio? A fydd dim yn anodd i’r ARGLWYDD? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara.