Genesis 2:1-3
Genesis 2:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly gorffennodd Duw y gwaith o greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo. Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith. Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a’i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna’r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.
Genesis 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear a'u holl luoedd. Ac erbyn y seithfed dydd yr oedd Duw wedi gorffen y gwaith a wnaeth, a gorffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith. Am hynny bendithiodd Duw y seithfed dydd a'i sancteiddio, am mai ar hwnnw y gorffwysodd Duw oddi wrth ei holl waith yn creu.
Genesis 2:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly y gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear, a’u holl lu hwynt. Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe. A DUW a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai DUW i’w wneuthur.