Genesis 47:5-6
Genesis 47:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Daeth dy dad a'th frodyr atat, ac y mae gwlad yr Aifft o'th flaen. Rho gartref i'th dad a'th frodyr yn y man gorau, a gad iddynt fyw yng ngwlad Gosen. Os gwyddost am wŷr medrus yn eu mysg, gosod hwy yn benbugeiliaid ar fy anifeiliaid i.”
Genesis 47:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A llefarodd Pharo wrth Joseff, gan ddywedyd, Dy dad a’th frodyr a ddaethant atat. Tir yr Aifft sydd o’th flaen; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus, gosod hwynt yn ben-bugeiliaid ar yr eiddof fi.
Genesis 47:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Mae dy dad a dy frodyr wedi dod atat ti. Mae gwlad yr Aifft o dy flaen di. Gad i dy dad a dy frodyr setlo yn y rhan orau o’r wlad. Gad iddyn nhw fynd i fyw yn ardal Gosen. Dewis y rhai gorau ohonyn nhw i ofalu am fy anifeiliaid i.”