Genesis 6:1-4
Genesis 6:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth i boblogaeth y byd dyfu ac i ferched gael eu geni, dyma’r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw’n cymryd y rhai roedden nhw’n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw’u hunain. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw’n greaduriaid sy’n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.” Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i’r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd.
Genesis 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dechreuodd y bobl amlhau ar wyneb y ddaear, a ganwyd merched iddynt; yna gwelodd meibion Duw fod y merched yn hardd, a chymerasant wragedd o'u plith yn ôl eu dewis. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Ni fydd fy ysbryd yn aros am byth mewn meidrolyn, oherwydd cnawd yw; ond cant ac ugain o flynyddoedd fydd hyd ei oes.” Y Neffilim oedd ar y ddaear yr amser hwnnw, ac wedi hynny hefyd, pan oedd meibion Duw yn cyfathrachu â'r merched, a hwythau'n geni plant iddynt. Dyma'r cedyrn gynt, gwŷr enwog.
Genesis 6:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt, Weled o feibion DUW ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe: a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant. Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion DUW at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hynny iddynt: dyma’r cedyrn a fu wŷr enwog gynt.