Genesis 8:21-22
Genesis 8:21-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd yr aberth yn arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD, ac meddai wrtho’i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio’r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw’n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud. Tra mae’r byd yn bod, bydd amser i blannu a chasglu’r cynhaeaf; bydd tywydd oer a thywydd poeth, haf a gaeaf, nos a dydd.”
Genesis 8:21-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A phan glywodd yr ARGLWYDD yr arogl hyfryd, dywedodd yr ARGLWYDD ynddo'i hun, “Ni felltithiaf y ddaear mwyach o achos dyn, er bod gogwydd ei feddwl yn ddrwg o'i ieuenctid; ni ddifethaf eto bopeth byw fel y gwneuthum. “Tra pery'r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos.”
Genesis 8:21-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr ARGLWYDD yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio’r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum. Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.