Haggai 1:8-9
Haggai 1:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ewch i'r mynydd, torrwch goed i adeiladu'r tŷ, i mi gael ymhyfrydu ynddo a chael anrhydedd,” medd yr ARGLWYDD. “Yr ydych yn edrych am lawer, ond yn cael ychydig; pan ddygwch y cynhaeaf adref, yr wyf yn chwythu arno. Pam?” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Am fod fy nhŷ yn adfeilion, a chwithau bob un ohonoch â thŷ i fynd iddo.
Haggai 1:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Esgynnwch i’r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y’m gogoneddir, medd yr ARGLWYDD. Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd ARGLWYDD y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun.
Haggai 1:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
‘Ewch i’r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu’r deml; bydd hynny’n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’ –meddai’r ARGLWYDD. ‘Roeddech chi’n disgwyl cnydau da, ond yn cael cnydau gwael. Roeddech chi’n ei gasglu, ond yna byddwn i’n ei chwythu i ffwrdd!’ –meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. ‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau’n rhy brysur yn poeni amdanoch chi’ch hunain!