Hebreaid 11:24-27
Hebreaid 11:24-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ffydd wnaeth i Moses, ar ôl iddo dyfu, wrthod cael ei drin fel mab i ferch y Pharo. Yn lle mwynhau pleserau pechod dros dro, dewisodd gael ei gam-drin fel un o bobl Dduw. Roedd cael ei amharchu dros y Meseia yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na holl drysor yr Aifft, am ei fod yn edrych ymlaen at y wobr oedd gan Dduw iddo. Ei ffydd wnaeth i Moses adael yr Aifft. Doedd ganddo ddim ofn y brenin. Daliodd ati i’r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig.
Hebreaid 11:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trwy ffydd y gwrthododd Moses, wedi iddo dyfu i fyny, gael ei alw yn fab i ferch Pharo, gan ddewis goddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhad pechod dros dro, a chan ystyried gwaradwydd yr Eneiniog yn gyfoeth mwy na thrysorau'r Aifft, oherwydd yr oedd ei olwg ar y wobr. Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, canys safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig.
Hebreaid 11:24-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo; Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau’r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy. Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig.