Hebreaid 11:8-9
Hebreaid 11:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai’n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. Ond pan aeth oddi cartref doedd e ddim yn gwybod ble roedd yn mynd! A phan gyrhaeddodd y wlad roedd Duw wedi’i haddo iddo, ei ffydd wnaeth iddo aros yno. Roedd fel ymwelydd mewn gwlad dramor, yn byw mewn pebyll. (Ac Isaac a Jacob yr un fath, gan fod Duw wedi rhoi’r un addewid iddyn nhw hefyd.)
Hebreaid 11:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham i'r alwad i fynd allan i'r lle yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth; ac fe aeth allan heb wybod i ble'r oedd yn mynd. Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron, a thrigodd mewn pebyll, fel y gwnaeth Isaac a Jacob, cydetifeddion yr un addewid.
Hebreaid 11:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob, cyd-etifeddion o’r un addewid