Hebreaid 12:1-2
Hebreaid 12:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Oes! Mae tyrfa enfawr o’n cwmpas ni yn dweud mai trystio Duw ydy’r ffordd orau i fyw. Felly gadewch i ni gael gwared â phopeth sy’n ein dal ni’n ôl, yn arbennig y pechod sy’n denu’n sylw ni mor hawdd. Gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati, a rhedeg y ras sydd o’n blaenau i’w diwedd. Rhaid i ni hoelio’n sylw ar Iesu – fe ydy’r pencampwr a’r hyfforddwr sy’n perffeithio ein ffydd ni. Er mwyn profi’r llawenydd oedd o’i flaen, dyma fe’n dal ei dir ar y groes gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny, a bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar yr ochr dde i orsedd Duw yn y nefoedd!
Hebreaid 12:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, gan fod cymaint torf o dystion o'n cwmpas, gadewch i ninnau fwrw ymaith bob rhwystr, a'r pechod sy'n ein maglu mor rhwydd, a rhedeg yr yrfa sydd o'n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd. Er mwyn y llawenydd oedd o'i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio, gan ddiystyru gwarth, ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.
Hebreaid 12:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni; Gan edrych ar Iesu, Pen-tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.