Hebreaid 4:12-13
Hebreaid 4:12-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae’n ei ddweud. Mae’n fwy miniog na’r un cleddyf, ac yn treiddio’n ddwfn o’n mewn, i wahanu’r enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr. Mae’n barnu beth dŷn ni’n ei feddwl ac yn ei fwriadu. Does dim byd drwy’r greadigaeth gyfan yn gallu cuddio oddi wrth Dduw. Mae e’n gweld popeth yn glir. A dyma’r Duw dŷn ni i gyd yn atebol iddo.
Hebreaid 4:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon. Nid oes dim a grewyd yn guddiedig o'i olwg, ond y mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo.
Hebreaid 4:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon. Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn.