Hebreaid 6:1-12
Hebreaid 6:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly mae angen i ni symud ymlaen o beth sy’n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin. Mae’n hen bryd i ni dyfu i fyny! Does dim rhaid mynd dros y pethau sylfaenol eto – yr angen i droi cefn ar y math o fywyd sy’n arwain i farwolaeth a dod i gredu yn Nuw; y ddysgeidiaeth am fedydd; comisiynu pobl drwy osod dwylo arnyn nhw; y ffaith y bydd y rhai sydd wedi marw yn codi yn ôl yn fyw ac y bydd Duw yn barnu beth fydd yn digwydd i bobl yn dragwyddol. A gyda help Duw dyna wnawn ni – symud yn ein blaenau! Mae’n gwbl amhosib arwain y rhai sydd wedi troi cefn ar y Meseia yn ôl ato. Dyma’r bobl welodd oleuni’r gwirionedd unwaith. Cawson nhw brofi rhodd hael Duw, a derbyn yr Ysbryd Glân gydag eraill. Cawson nhw flas ar neges Duw a nerthoedd yr oes sydd i ddod. Ac eto maen nhw wedi troi cefn arno! Maen nhw’n gyfrifol am hoelio Mab Duw ar y groes unwaith eto drwy ei wrthod, a’i wneud yn destun sbort i bobl. Mae Duw yn bendithio’r ddaear drwy anfon glaw i’w mwydo’n gyson, ac mae’r tir yn rhoi cnwd da i’w ddefnyddio gan y ffermwr sy’n trin y tir. Ond dydy tir gyda dim byd ond drain ac ysgall yn tyfu arno yn dda i ddim. Bydd yn cael ei gondemnio a’i losgi yn y diwedd. Ond er ein bod ni’n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni’n hyderus fod pethau gwell o’ch blaen chi – bendithion sy’n dod i’r rhai sy’n cael eu hachub. Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi’i wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi’n dal i wneud hynny! Daliwch ati i ddangos yr un brwdfrydedd, a byddwch chi’n derbyn yn llawn y cwbl dych chi’n edrych ymlaen ato. Dŷn ni ddim am i chi fod yn ddiog! Dilynwch esiampl y rhai hynny sy’n credu go iawn ac yn dal ati yn amyneddgar – nhw ydy’r rhai fydd yn derbyn y cwbl mae Duw wedi’i addo.
Hebreaid 6:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, gadewch inni ymadael â'r athrawiaeth elfennol am Grist, a mynd ymlaen at y tyfiant llawn. Ni ddylem eilwaith osod y sylfaen, sef edifeirwch am weithredoedd meirwon, a ffydd yn Nuw, dysgeidiaeth am olchiadau, arddodiad dwylo, atgyfodiad y meirw, a'r Farn dragwyddol. A mynd ymlaen a wnawn, os caniatâ Duw. Oherwydd y rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofodd o'r rhodd nefol, ac a fu'n gyfrannog o'r Ysbryd Glân, ac a brofodd ddaioni gair Duw a nerthoedd yr oes i ddod— os yw'r rhain wedyn wedi syrthio ymaith, y mae'n amhosibl eu hadfer i edifeirwch, gan eu bod i'w niwed eu hunain yn croeshoelio Mab Duw, ac yn ei wneud yn waradwydd. Oherwydd y mae'r ddaear, sy'n llyncu'r glaw sy'n disgyn arni'n fynych, ac sy'n dwyn cnydau addas i'r rhai y mae'n cael ei thrin er eu mwyn, yn derbyn ei chyfran o fendith Duw. Ond os yw'n dwyn drain ac ysgall, y mae'n ddiwerth ac yn agos i felltith, a'i diwedd fydd ei llosgi. Er ein bod yn siarad fel hyn, yr ydym yn argyhoeddedig, gyfeillion annwyl, fod pethau gwell yn eich aros chwi, pethau sy'n perthyn i iachawdwriaeth. Oherwydd nid yw Duw yn anghyfiawn; nid anghofia eich gwaith, a'r cariad tuag at ei enw yr ydych wedi ei amlygu drwy weini i'r saint, ac yn dal ati i weini. Ond ein dyhead yw i bob un ohonoch ddangos yr un eiddgarwch ynglŷn â sicrwydd eich gobaith hyd y diwedd. Yr ydym am ichwi beidio â bod yn ddiog, ond yn efelychwyr y rhai sydd drwy ffydd ac amynedd yn etifeddu'r addewidion.
Hebreaid 6:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylo, ac atgyfodiad y meirw, a’r farn dragwyddol. A hyn a wnawn, os caniatâ Duw. Canys amhosibl yw i’r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o’r Ysbryd Glân, Ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw, Ac a syrthiant ymaith, ymadnewyddu drachefn i edifeirwch; gan eu bod yn ailgroeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osod yn watwar. Canys y ddaear, yr hon sydd yn yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymwys i’r rhai y llafurir hi ganddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw: Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymeradwy, ac agos i felltith; diwedd yr hon yw, ei llosgi. Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn. Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith, a’r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i’r saint, ac ydych yn gweini. Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd: Fel na byddoch fusgrell, eithr yn ddilynwyr i’r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu’r addewidion.