Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Hosea 13:15 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Hosea 13:15 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors, ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyrain i fyny o gyfeiriad yr anialwch. Bydd y dŵr yn sychu, a’r ffynhonnau’n diflannu, a’r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha.

Hosea 13:15 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

“Yn wir yr oedd yn dwyn ffrwyth ymysg brodyr, ond daw dwyreinwynt, gwynt yr ARGLWYDD, yn codi o'r anialwch; â ei ffynnon yn hesb, a sychir ei bydew; dinoetha ei drysordy o'i holl ddarnau gwerthfawr.

Hosea 13:15 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr ARGLWYDD o’r anialwch a ddyrchafa, a’i ffynhonnell a sych, a’i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol.