Eseia 40:1-11
Eseia 40:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Cysurwch nhw; cysurwch fy mhobl i,” – dyna mae eich Duw yn ei ddweud. “Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem, a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd; mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni. Yn wir, mae’r ARGLWYDD wedi gwneud iddi dalu’n llawn am ei holl bechodau.” Mae llais yn gweiddi’n uchel: “Cliriwch y ffordd i’r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy’r diffeithwch! Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn, a bydd cribau’r mynyddoedd yn dir gwastad. Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i’r golwg, a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.” –mae’r ARGLWYDD wedi dweud. Mae’r llais yn dweud, “Gwaedda!” Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?” “Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai, “a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt; mae’r glaswellt yn crino a’r blodyn yn gwywo pan mae’r ARGLWYDD yn chwythu arnyn nhw.” Ie, glaswellt ydy’r bobl. Mae’r glaswellt yn crino, a’r blodyn yn gwywo, ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth! Seion, sy’n cyhoeddi newyddion da, dringa i ben mynydd uchel! Ie, Jerwsalem, sy’n cyhoeddi newyddion da, gwaedda’n uchel! Gwaedda! Paid bod ag ofn! Dwed wrth drefi Jwda: “Dyma’ch Duw chi!” Edrych! Mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn dod fel milwr cryf i deyrnasu gyda nerth. Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae’n dod â’i roddion o’i flaen. Bydd yn bwydo’i braidd fel bugail; bydd yn codi’r ŵyn yn ei freichiau ac yn eu cario yn ei gôl, tra’n arwain y defaid sy’n eu magu.
Eseia 40:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cysurwch, cysurwch fy mhobl— dyna a ddywed eich Duw. Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem, a dywedwch wrthi ei bod wedi cwblhau ei thymor gwasanaeth a bod ei chosb wedi ei thalu, ei bod wedi derbyn yn ddwbl oddi ar law'r ARGLWYDD am ei holl bechodau. Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i'n Duw ni. Caiff pob pant ei godi, pob mynydd a bryn ei ostwng; gwneir y tir ysgythrog yn llyfn, a'r tir anwastad yn wastadedd. Datguddir gogoniant yr ARGLWYDD, a phawb ynghyd yn ei weld. Genau'r ARGLWYDD a lefarodd.” Llais un yn dweud, “Galw”; a daw'r ateb, “Beth a alwaf? Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl nerth fel blodeuyn y maes. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo pan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno. Yn wir, glaswellt yw'r bobl. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.” Dring i fynydd uchel; ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, cod dy lais yn gryf; ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda, paid ag ofni. Dywed wrth ddinasoedd Jwda, “Dyma eich Duw chwi.” Wele'r Arglwydd DDUW yn dod mewn nerth, yn rheoli â'i fraich. Wele, y mae ei wobr ganddo, a'i dâl gydag ef. Y mae'n porthi ei braidd fel bugail, ac â'i fraich yn eu casglu ynghyd; y mae'n cludo'r ŵyn yn ei gôl, ac yn coleddu'r mamogiaid.
Eseia 40:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cysurwch, cysurwch fy mhobl, medd eich DUW. Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr ARGLWYDD yn ddauddyblyg am ei holl bechodau. Llef un yn llefain yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch lwybr i’n DUW ni yn y diffeithwch. Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gŵyr a wneir yn union, a’r anwastad yn wastadedd. A gogoniant yr ARGLWYDD a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a’i gwêl; canys genau yr ARGLWYDD a lefarodd hyn. Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a’i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes. Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; canys ysbryd yr ARGLWYDD a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl. Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein DUW ni a saif byth. Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich DUW chwi. Wele, yr ARGLWYDD DDUW a ddaw yn erbyn y cadarn, a’i fraich a lywodraetha drosto: wele ei wobr gydag ef, a’i waith o’i flaen. Fel bugail y portha efe ei braidd; â’i fraich y casgl ei ŵyn, ac a’u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid.