Eseia 40:28-31
Eseia 40:28-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wyt ti ddim yn gwybod? Wyt ti ddim wedi clywed? Yr ARGLWYDD ydy’r Duw tragwyddol! Fe sydd wedi creu’r ddaear gyfan. Dydy ei nerth e ddim yn pallu; Dydy e byth yn blino. Mae e’n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall! Fe sy’n gwneud y gwan yn gryf, ac yn rhoi egni i’r blinedig. Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino, a’r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio; ond bydd y rhai sy’n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw’n hedfan i fyny fel eryrod, yn rhedeg heb flino a cherdded ymlaen heb stopio.
Eseia 40:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oni wyddost, oni chlywaist? Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDD a greodd gyrrau'r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy. Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol, ac yn ychwanegu cryfder i'r di-rym. Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino, a'r cryfion yn syrthio'n llipa; ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.
Eseia 40:28-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina DUW tragwyddoldeb, yr ARGLWYDD, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef. Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol, ac a amlha gryfder i’r di-rym. Canys yr ieuenctid a ddiffygia ac a flina, a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant: Eithr y rhai a obeithiant yn yr ARGLWYDD a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant.