Eseia 40:30-31
Eseia 40:30-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino, a’r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio; ond bydd y rhai sy’n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw’n hedfan i fyny fel eryrod, yn rhedeg heb flino a cherdded ymlaen heb stopio.
Rhanna
Darllen Eseia 40Eseia 40:30-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino, a'r cryfion yn syrthio'n llipa; ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.
Rhanna
Darllen Eseia 40Eseia 40:30-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr ieuenctid a ddiffygia ac a flina, a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant: Eithr y rhai a obeithiant yn yr ARGLWYDD a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant.
Rhanna
Darllen Eseia 40