Eseia 40:6-7
Eseia 40:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r llais yn dweud, “Gwaedda!” Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?” “Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai, “a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt; mae’r glaswellt yn crino a’r blodyn yn gwywo pan mae’r ARGLWYDD yn chwythu arnyn nhw.” Ie, glaswellt ydy’r bobl.
Rhanna
Darllen Eseia 40Eseia 40:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llais un yn dweud, “Galw”; a daw'r ateb, “Beth a alwaf? Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl nerth fel blodeuyn y maes. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo pan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno. Yn wir, glaswellt yw'r bobl.
Rhanna
Darllen Eseia 40Eseia 40:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a’i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes. Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; canys ysbryd yr ARGLWYDD a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl.
Rhanna
Darllen Eseia 40