Eseia 52:14-15
Eseia 52:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fel roedd llawer wedi dychryn o’i weld yn edrych mor ofnadwy – prin yn ddynol (doedd e ddim yn edrych fel dyn), bydd e’n puro llawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd yn fud o’i flaen – byddan nhw’n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro, ac yn deall rhywbeth roedden nhw heb glywed amdano.
Eseia 52:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar y pryd roedd llawer yn synnu ato— roedd ei wedd yn rhy hagr i ddyn, a'i bryd yn hyllach na neb dynol, a phobloedd lawer yn troi i ffwrdd rhag ei weld, a brenhinoedd yn fud o'i blegid. Ond byddant yn gweld peth nas eglurwyd iddynt, ac yn deall yr hyn na chlywsant amdano.
Eseia 52:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Megis y rhyfeddodd llawer wrthyt, (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a’i bryd yn anad meibion dynion,) Felly y taenella efe genhedloedd lawer; brenhinoedd a gaeant eu genau wrtho ef; canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent.