Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Eseia 58:12 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 58:12 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Byddi’n ailgodi’r hen adfeilion, ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini. Byddi’n cael dy alw yn ‘atgyweiriwr y waliau’ ac yn ‘adferwr y strydoedd’, i bobl fyw yno.

Eseia 58:12 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnod ac yn codi ar yr hen sylfeini; fe'th elwir yn gaewr bylchau, ac yn adferwr tai adfeiliedig.

Eseia 58:12 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeiladant yr hen ddiffeithleoedd; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gaewr yr adwy, yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt.