Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Eseia 58:13-14 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 58:13-14 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth, a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i; os gwnei di alw’r Saboth yn bleser, parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD, dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau, plesio dy hun, a siarad fel y mynni – wedyn gelli ddisgwyl i’r ARGLWYDD gael ei blesio. Byddi’n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro, a chei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.” –mae’r ARGLWYDD wedi dweud.

Eseia 58:13-14 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

“Os peidi â sathru'r Saboth dan draed, a pheidio â cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd, ond galw'r Saboth yn hyfrydwch, a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus; os anrhydeddi ef, trwy beidio â theithio, na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun; yna cei foddhad yn yr ARGLWYDD. Cei farchogaeth ar uchelfannau'r ddaear, a phorthaf di ag etifeddiaeth dy dad Jacob.” Y mae genau'r ARGLWYDD wedi llefaru.

Eseia 58:13-14 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

O throi dy droed oddi wrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd; a galw y Saboth yn hyfrydwch, sanct yr ARGLWYDD yn ogoneddus; a’i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun: Yna yr ymhyfrydi yn yr ARGLWYDD, ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchelfeydd y ddaear, ac a’th borthaf ag etifeddiaeth Jacob dy dad: canys genau yr ARGLWYDD a’i llefarodd.