Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Eseia 58:4-5 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 58:4-5 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dych chi’n ymprydio i ffraeo a ffustio, Dim dyna’r ffordd i ymprydio os ydych chi eisiau i Dduw wrando. Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau – diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain, ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy’n gwywo? Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw? Ai dyna beth wyt ti’n ei alw’n ymprydio, yn ddiwrnod sy’n plesio’r ARGLWYDD?

Eseia 58:4-5 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae eich ympryd yn arwain i gynnen a chweryl, a tharo â dyrnod maleisus; nid yw'r fath ddiwrnod o ympryd yn dwyn eich llais i fyny uchod. Ai dyma'r math o ympryd a ddewisais— diwrnod i rywun ei gystuddio'i hun? A yw i grymu ei ben fel brwynen, a gwneud ei wely mewn sachliain a lludw? Ai hyn a elwi yn ympryd, yn ddiwrnod i ryngu bodd i'r ARGLWYDD?

Eseia 58:4-5 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Wele, i ymryson a chynnen yr ymprydiwch, ac i daro â dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder. Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? ai crymu ei ben fel brwynen ydyw, a thaenu sachliain a lludw dano? ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr ARGLWYDD?