Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Eseia 60:16 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 60:16 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Byddi’n yfed o laeth y cenhedloedd, ac yn sugno bronnau brenhinoedd. Wedyn byddi di’n gwybod mai fi ydy’r ARGLWYDD sy’n dy achub, Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy’n dy ollwng di’n rhydd.

Eseia 60:16 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Cei sugno llaeth cenhedloedd, a'th fagu ar fronnau brenhinoedd, a chei wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy achubydd, ac mai Duw cadarn Jacob yw dy Waredydd.

Eseia 60:16 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob.