Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Eseia 60:20 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 60:20 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy, a llewyrch y lleuad ddim yn cilio; yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd dy gyfnod o alaru drosodd.

Eseia 60:20 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ni fachluda dy haul mwyach, ac ni phalla dy leuad; oherwydd yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti, a daw diwedd ar ddyddiau dy alar.

Eseia 60:20 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.