Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Eseia 60:6 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 60:6 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd, camelod o Midian, Effa a Sheba. Byddan nhw’n cario aur a thus, ac yn canu mawl i’r ARGLWYDD.

Eseia 60:6 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio, daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba; byddant i gyd yn cludo aur a thus, ac yn mynegi moliant yr ARGLWYDD.

Eseia 60:6 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Lliaws y camelod a’th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr ARGLWYDD a fynegant.