Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Eseia 61:6 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 61:6 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Byddwch chi’n cael eich galw yn ‘Offeiriaid yr ARGLWYDD’, ‘Gweision Duw’ fydd y teitl arnoch chi. Byddwch chi’n bwydo ar gyfoeth y cenhedloedd ac yn mwynhau eu holl drysorau nhw.

Eseia 61:6 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD, a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni; cewch fwyta o olud y cenhedloedd ac ymffrostio yn eu cyfoeth.

Eseia 61:6 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Chwithau a elwir yn offeiriaid i’r ARGLWYDD: Gweinidogion ein DUW ni, meddir wrthych; golud y cenhedloedd a fwynhewch, ac yn eu gogoniant hwy yr ymddyrchefwch.