Eseia 62:4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Eseia 62:4 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Gei di byth eto yr enw ‘Gwrthodedig’, a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn ‘Anialwch’. Na, byddi’n cael dy alw ‘Fy hyfrydwch’, a bydd dy wlad yn cael yr enw ‘Fy mhriod’. Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti, a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo.
Rhanna
Eseia 62 BNETEseia 62:4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni'th enwir mwyach, Gwrthodedig, ac ni ddywedir drachefn am dy wlad, Anghyfannedd; eithr enwir di, Heffsiba, a'th wlad, Beula, oherwydd ymhyfryda'r ARGLWYDD ynot, a phriodir dy wlad.
Rhanna
Eseia 62 BCNDEseia 62:4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a’th dir, Beula: canys y mae yr ARGLWYDD yn dy hoffi, a’th dir a briodir.
Rhanna
Eseia 62 BWM