Eseia 63:7 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Eseia 63:7 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dw i’n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy’r ARGLWYDD, a dw i’n mynd i ganu ei glod – am y cwbl mae’r ARGLWYDD wedi’i wneud i ni, a’r holl bethau da mae e wedi’u gwneud i bobl Israel. Mae e mor drugarog ac mor hael!
Rhanna
Eseia 63 BNETEseia 63:7 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD, a chanu ei glodydd am y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni, a'i ddaioni mawr i dŷ Israel, am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd, ac o lawnder ei gariad di-sigl.
Rhanna
Eseia 63 BCNDEseia 63:7 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cofiaf drugareddau yr ARGLWYDD, a moliant DUW, yn ôl yr hyn oll a roddodd DUW i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau.
Rhanna
Eseia 63 BWM