Iago 1:5-8
Iago 1:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac os oes un ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe'i rhoddir iddo, oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod. Ond gofynned mewn ffydd, heb amau, gan fod y sawl sy'n amau yn debyg i don y môr, sy'n cael ei chwythu a'i chwalu gan y gwynt. Nid yw hwnnw—ac yntau rhwng dau feddwl, yn ansicr yn ei holl ffyrdd—i dybio y caiff ddim gan yr Arglwydd.
Iago 1:5-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw. Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb – peidio amau, am fod y rhai sy’n amau yn debyg i donnau’r môr yn cael eu taflu a’u chwipio i bobman gan y gwynt. Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd! Dŷn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhw’n byw mewn ansicrwydd.
Iago 1:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef. Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.