Iago 4:1-10
Iago 4:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ble y daeth ymrafaelion a chwerylon yn eich plith? Onid o'r chwantau sy'n milwrio yn eich aelodau? Yr ydych yn chwennych ac yn methu cael; yr ydych yn llofruddio ac eiddigeddu ac yn methu meddiannu; yr ydych yn ymladd a rhyfela. Nid ydych yn cael am nad ydych yn gofyn. A phan fyddwch yn gofyn, nid ydych yn derbyn, a hynny am eich bod yn gofyn ar gam, â'ch bryd ar wario yr hyn a gewch ar eich pleserau. Chwi rai anffyddlon, oni wyddoch fod cyfeillgarwch â'r byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Y mae unrhyw un sy'n mynnu bod yn gyfaill i'r byd yn ei wneud ei hun yn elyn i Dduw. Neu a ydych yn tybio nad oes ystyr i'r Ysgrythur sy'n dweud, “Y mae Duw'n dyheu hyd at eiddigedd am yr ysbryd a osododd i drigo ynom?” A gras mwy y mae ef yn ei roi. Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras.” Felly, ymddarostyngwch i Dduw. Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych. Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi bobl ddau feddwl. Tristewch a galarwch ac wylwch. Bydded i'ch chwerthin droi'n alar a'ch llawenydd yn brudd-der. Ymostyngwch o flaen yr Arglwydd, a bydd ef yn eich dyrchafu chwi.
Iago 4:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Beth sy’n gyfrifol am yr holl frwydro a’r gwrthdaro sy’n eich plith chi? Onid yr ymdrech barhaus i fodloni’r hunan ydy’r drwg? Dych chi eisiau rhywbeth ond yn methu ei gael. Mae’r ysfa yn gwneud i chi fod yn barod i ladd. Dych chi eisiau pethau ac yn methu cael gafael ynddyn nhw, felly dych chi’n ffraeo ac yn ymladd. Dych chi ddim yn cael am eich bod chi ddim yn gofyn i Dduw. A dych chi ddim yn derbyn hyd yn oed pan dych chi yn gofyn, am eich bod chi’n gofyn am y rheswm anghywir! Dych chi ddim ond eisiau bodloni eich awydd am bleser. Dych chi fel gwragedd sy’n anffyddlon i’w gwŷr! Ydy hi ddim yn amlwg i chi fod bod yn gyfaill i bethau’r byd yn golygu casineb at Dduw? Mae unrhyw un sy’n dewis bod yn gyfaill i’r byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw. Ydych chi’n meddwl fod beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn ddiystyr: sef fod yr Ysbryd a roddodd i ni yn gwrthwynebu cenfigen? Ond mae haelioni Duw yn fwy na hynny eto! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae’n hael at y rhai gostyngedig.” Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi. Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr. Dangoswch eich bod yn gofidio am y pethau drwg wnaethoch chi, dangoswch alar, ac wylwch. Trowch eich chwerthin yn alar a’ch miri yn dristwch. Os wnewch chi blygu o flaen yr Arglwydd a chydnabod eich angen, bydd e’n eich anrhydeddu chi.
Iago 4:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau. Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw. A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer, At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni? Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych. Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg. Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi.