Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 4:1-12

Iago 4:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Beth sy’n gyfrifol am yr holl frwydro a’r gwrthdaro sy’n eich plith chi? Onid yr ymdrech barhaus i fodloni’r hunan ydy’r drwg? Dych chi eisiau rhywbeth ond yn methu ei gael. Mae’r ysfa yn gwneud i chi fod yn barod i ladd. Dych chi eisiau pethau ac yn methu cael gafael ynddyn nhw, felly dych chi’n ffraeo ac yn ymladd. Dych chi ddim yn cael am eich bod chi ddim yn gofyn i Dduw. A dych chi ddim yn derbyn hyd yn oed pan dych chi yn gofyn, am eich bod chi’n gofyn am y rheswm anghywir! Dych chi ddim ond eisiau bodloni eich awydd am bleser. Dych chi fel gwragedd sy’n anffyddlon i’w gwŷr! Ydy hi ddim yn amlwg i chi fod bod yn gyfaill i bethau’r byd yn golygu casineb at Dduw? Mae unrhyw un sy’n dewis bod yn gyfaill i’r byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw. Ydych chi’n meddwl fod beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn ddiystyr: sef fod yr Ysbryd a roddodd i ni yn gwrthwynebu cenfigen? Ond mae haelioni Duw yn fwy na hynny eto! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae’n hael at y rhai gostyngedig.” Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi. Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr. Dangoswch eich bod yn gofidio am y pethau drwg wnaethoch chi, dangoswch alar, ac wylwch. Trowch eich chwerthin yn alar a’ch miri yn dristwch. Os wnewch chi blygu o flaen yr Arglwydd a chydnabod eich angen, bydd e’n eich anrhydeddu chi. Peidiwch siarad yn ddirmygus am eich gilydd frodyr a chwiorydd. Mae’r un sy’n dirmygu neu’n beirniadu brawd neu chwaer, yn dirmygu ac yn beirniadu Cyfraith Duw. Barnu’r Gyfraith dych chi’n ei wneud wrth feirniadu pobl eraill, dim cadw’r Gyfraith. A’r Un sydd wedi rhoi’r Gyfraith i ni, Duw ei hun, ydy’r unig Farnwr go iawn. Fe sydd â’r gallu i achub a dinistrio, dim ti! Pwy wyt ti’n feddwl wyt ti yn barnu dy gymydog?

Iago 4:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

O ble y daeth ymrafaelion a chwerylon yn eich plith? Onid o'r chwantau sy'n milwrio yn eich aelodau? Yr ydych yn chwennych ac yn methu cael; yr ydych yn llofruddio ac eiddigeddu ac yn methu meddiannu; yr ydych yn ymladd a rhyfela. Nid ydych yn cael am nad ydych yn gofyn. A phan fyddwch yn gofyn, nid ydych yn derbyn, a hynny am eich bod yn gofyn ar gam, â'ch bryd ar wario yr hyn a gewch ar eich pleserau. Chwi rai anffyddlon, oni wyddoch fod cyfeillgarwch â'r byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Y mae unrhyw un sy'n mynnu bod yn gyfaill i'r byd yn ei wneud ei hun yn elyn i Dduw. Neu a ydych yn tybio nad oes ystyr i'r Ysgrythur sy'n dweud, “Y mae Duw'n dyheu hyd at eiddigedd am yr ysbryd a osododd i drigo ynom?” A gras mwy y mae ef yn ei roi. Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras.” Felly, ymddarostyngwch i Dduw. Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych. Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi bobl ddau feddwl. Tristewch a galarwch ac wylwch. Bydded i'ch chwerthin droi'n alar a'ch llawenydd yn brudd-der. Ymostyngwch o flaen yr Arglwydd, a bydd ef yn eich dyrchafu chwi. Peidiwch â dilorni eich gilydd, gyfeillion; y mae'r sawl sy'n dilorni rhywun arall, neu'n ei farnu, yn dilorni'r Gyfraith ac yn barnu'r Gyfraith. Ac os wyt ti yn barnu'r Gyfraith, yna nid gwneuthurwr y Gyfraith mohonot, ond ei barnwr hi. Nid oes ond un deddfroddwr a barnwr, sef yr un sy'n abl i achub a dinistrio. Pwy wyt ti i eistedd mewn barn ar dy gymydog?

Iago 4:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau. Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw. A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer, At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni? Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych. Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg. Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi. Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu’r gyfraith: ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr. Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall?