Iago 5:13-20
Iago 5:13-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Oes rhywun yn eich plith chi mewn trafferthion? Dylai weddïo. Oes rhywun yn hapus? Dylai ganu cân o fawl i Dduw. Oes rhywun yn sâl? Dylai ofyn i arweinwyr yr eglwys leol ddod i weddïo drosto a’i eneinio ag olew ar ran yr Arglwydd. Os gwnân nhw weddïo a chredu yn nerth Duw bydd y claf yn cael ei iacháu. Bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed, ac os ydy e wedi pechu, bydd yn cael maddeuant. Felly cyffeswch eich pechodau i’ch gilydd a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i chi gael eich iacháu. Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol. Dyn cyffredin fel ni oedd Elias, a gweddïodd yn gyson iddi beidio glawio, a wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner! Wedyn gweddïodd eto, a dyma hi’n tywallt y glaw, ac roedd cnydau yn dechrau tyfu ar y ddaear eto. Frodyr a chwiorydd, os bydd un o’ch plith chi’n troi i ffwrdd oddi wrth y gwirionedd, a rhywun arall yn ei arwain yn ôl, gallwch fod yn siŵr o hyn: bydd y person sy’n ei droi yn ôl o’i ffyrdd ffôl yn achub y pechadur rhag marwolaeth dragwyddol ac yn maddau lot fawr o bechodau .
Iago 5:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A oes rhywun yn eich plith mewn adfyd? Dylai weddïo. A oes rhywun yn llawen? Dylai ganu mawl. A oes rhywun yn glaf yn eich plith? Galwed ato henuriaid yr eglwys, i weddïo trosto a'i eneinio ag olew yn enw yr Arglwydd. Bydd gweddi a offrymir mewn ffydd yn iacháu y sawl sy'n glaf, a bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed; ac os yw wedi pechu, fe gaiff faddeuant. Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iachâd. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn. Yr oedd Elias yn ddyn o'r un anian â ninnau, ac fe weddïodd ef yn daer am iddi beidio â glawio; ac ni lawiodd ar y ddaear am dair blynedd a chwe mis. Yna gweddïodd eilwaith, a dyma'r nefoedd yn arllwys ei glaw, a'r ddaear yn dwyn ei ffrwyth. Fy nghyfeillion, os digwydd i un ohonoch wyro oddi wrth y gwirionedd, ac i un arall ei droi'n ôl, boed iddo wybod hyn: bydd y sawl a drodd y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd yn achub ei enaid rhag angau, ac yn dileu lliaws o bechodau.
Iago 5:13-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn esmwyth arno? caned salmau. A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy drosto, gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd: A gweddi’r ffydd a iachâ’r claf, a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo. Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn. Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis. Ac efe a weddïodd drachefn; a’r nef a roddes law, a’r ddaear a ddug ei ffrwyth. Fy mrodyr, od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef; Gwybydded, y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lliaws o bechodau.