Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 15:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Barnwyr 15:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Rôn i’n meddwl dy fod ti’n ei chasáu hi go iawn, felly dyma fi’n ei rhoi hi i dy was priodas. Mae ei chwaer fach hyd yn oed yn ddelach na hi. Pam wnei di ddim ei chymryd hi yn ei lle?”

Barnwyr 15:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

a dywedodd wrtho, “Yr oeddwn yn meddwl yn sicr ei bod hi'n llwyr atgas gennyt; felly rhoddais hi i'th was priodas. Y mae ei chwaer iau yn dlysach na hi; cymer hi yn ei lle.”

Barnwyr 15:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A’i thad a lefarodd, gan ddywedyd, Tybiaswn i ti ei chasáu hi; am hynny y rhoddais hi i’th gyfaill di: onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach na hi? bydded honno i ti, atolwg, yn ei lle hi.