Barnwyr 2:18
Barnwyr 2:18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth i bobl Israel riddfan am fod y gelynion yn eu cam-drin nhw, roedd yr ARGLWYDD yn teimlo drostyn nhw. Roedd yn dewis arweinwyr iddyn nhw, ac yn helpu’r arweinwyr hynny i’w hachub o ddwylo eu gelynion. Wedyn roedd popeth yn iawn tra oedd yr arweinydd yn fyw
Rhanna
Darllen Barnwyr 2Barnwyr 2:18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan fyddai'r ARGLWYDD yn codi barnwr iddynt, byddai ef gyda'r barnwr ac yn eu gwaredu o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr hwnnw; oherwydd byddai'r ARGLWYDD yn tosturio wrthynt yn eu griddfan o achos eu gormeswyr a'u cystuddwyr.
Rhanna
Darllen Barnwyr 2Barnwyr 2:18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan godai yr ARGLWYDD farnwyr arnynt hwy, yna yr ARGLWYDD fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr ARGLWYDD a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr.
Rhanna
Darllen Barnwyr 2