Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 6:15 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Barnwyr 6:15 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Atebodd Gideon, “Ond feistr, sut alla i achub Israel? Dw i’n dod o’r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!”

Barnwyr 6:15 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Atebodd yntau, “Ond, syr, sut y gwaredaf fi Israel? Edrych, fy nhylwyth i yw'r gwannaf yn Manasse, a minnau yw'r distatlaf o'm teulu.”

Barnwyr 6:15 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Dywedodd yntau wrtho ef, O fy arglwydd, pa fodd y gwaredaf fi Israel? Wele fy nheulu yn dlawd ym Manasse, a minnau yn lleiaf yn nhŷ fy nhad.