Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 7:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Barnwyr 7:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Mae gormod o ddynion yn dy fyddin di. Os gwna i adael i chi guro Midian, mae peryg i bobl Israel frolio mai nhw eu hunain wnaeth ennill y frwydr.

Barnwyr 7:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Y mae gennyt ormod o bobl gyda thi imi roi Midian yn eu llaw, rhag i Israel ymfalchïo yn f'erbyn a dweud, ‘Fy llaw fy hun sydd wedi f'achub.’

Barnwyr 7:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi, i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo; rhag i Israel ymogoneddu i’m herbyn, gan ddywedyd, Fy llaw fy hun a’m gwaredodd.