Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 7:3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Barnwyr 7:3 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dwed wrth y dynion, ‘Os oes rhywun ag ofn, cewch droi’n ôl a gadael Mynydd Gilead.’” Aeth dau ddeg dau o filoedd adre, gan adael deg mil ar ôl.

Barnwyr 7:3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Felly, cyhoedda yng nghlyw'r bobl, ‘Pwy bynnag sydd mewn ofn a dychryn, aed adref.’ ” Profodd Gideon hwy, a dychwelodd dwy fil ar hugain o'r bobl, gan adael deng mil ar ôl.

Barnwyr 7:3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Am hynny, yn awr, cyhoedda lle y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead. A dychwelodd o’r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant.