Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 10:1-16

Jeremeia 10:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, dŷ Israel. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt. Y mae arferion y bobloedd fel eilun— pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer â bwyell; ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur, y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud. Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith.” Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt, mawr yw dy enw mewn nerth. Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd? Hyn sy'n gweddu i ti. Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi. Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd, wedi eu dysgu gan eilunod o bren! Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y saer a dwylo'r eurych; a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor— gwaith crefftwyr ydyw i gyd. Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw; ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol; y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid, ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter. Fel hyn y dywedwch wrthynt: “Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd.” Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth, sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall. Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear. Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai. Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt. Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio; yn amser eu cosbi fe'u difethir. Nid yw Duw Jacob fel y rhain, oherwydd ef yw lluniwr pob peth, ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

Jeremeia 10:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Bobl Israel, gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi: “Peidiwch gwneud yr un fath â’r gwledydd paganaidd. Peidiwch cymryd sylw o ‘arwyddion’ y sêr a’r planedau, a gadael i bethau felly eich dychryn chi, fel maen nhw’n dychryn y gwledydd hynny. Dydy arferion paganaidd felly yn dda i ddim! Mae coeden yn cael ei thorri i lawr yn y goedwig, ac mae cerfiwr yn gwneud eilun ohoni gyda chŷn. Wedyn mae’n ei addurno gydag arian ac aur, ac yn defnyddio morthwyl a hoelion i’w ddal yn ei le, rhag iddo syrthio! Mae’r eilunod yma fel bwganod brain mewn gardd lysiau. Allan nhw ddim siarad; allan nhw ddim cerdded, felly mae’n rhaid eu cario nhw i bobman. Peidiwch bod â’u hofn nhw – allan nhw wneud dim niwed i chi, na gwneud dim i’ch helpu chi chwaith!” “O ARGLWYDD, does dim un ohonyn nhw’n debyg i ti. Ti ydy’r Duw mawr, sy’n enwog am dy fod mor bwerus! Ti ydy Brenin y cenhedloedd, felly dylai pawb dy addoli di – dyna wyt ti’n ei haeddu! Dydy pobl fwya doeth y gwledydd i gyd a’r teyrnasoedd yn ddim byd tebyg i ti. Pobl wyllt a dwl ydyn nhw, yn meddwl y gall eilun pren eu dysgu nhw! Maen nhw’n dod ag arian wedi’i guro o Tarshish, ac aur pur o Wffas, i orchuddio’r delwau. Dim ond gwaith llaw cerfiwr a gof aur ydy’r rheiny; a’u dillad glas a phorffor yn waith teiliwr medrus! Yr ARGLWYDD ydy’r unig Dduw go iawn – y Duw byw, sy’n frenin am byth! Pan mae e’n ddig mae’r ddaear yn crynu. Mae’r cenhedloedd yn cuddio oddi wrth ei ddicter.” (Dylech ddweud wrth y cenhedloedd: “Wnaeth y ‘duwiau’ yma ddim creu’r nefoedd a’r ddaear. Byddan nhw i gyd yn diflannu – fydd dim sôn amdanyn nhw yn unman!”) Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu’r ddaear. Fe ydy’r un osododd y byd yn ei le drwy ei ddoethineb, a lledu’r awyr drwy ei ddeall. Mae sŵn ei lais yn gwneud i’r awyr daranu. Mae’n gwneud i gymylau ddod i’r golwg ar y gorwel. Mae’n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw. Mae’n dod â’r gwynt allan o’i stordai i chwythu. Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw’n gwybod dim byd! Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a’u gwnaeth nhw. Duwiau ffals ydy’r delwau; does dim bywyd ynddyn nhw. Dŷn nhw’n dda i ddim! Pethau i wneud sbort am eu pennau! Mae’r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a’u dinistrio. Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw. Fe ydy’r un wnaeth greu pob peth, ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo. Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw!

Jeremeia 10:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrandewch y gair a ddywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, tŷ Israel: Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy. Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o’r coed, gwaith llaw y saer, â bwyell. Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo. Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt. Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, ARGLWYDD: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid. Pwy ni’th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi. Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff. Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo’r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll. Eithr yr ARGLWYDD ydyw y gwir DDUW, efe yw y DUW byw, a’r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef. Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd. Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr. Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda’r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau. Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt. Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt. Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw.