Jeremeia 16:19-21
Jeremeia 16:19-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“O ARGLWYDD, ti sy’n rhoi nerth i mi, ac yn fy amddiffyn; ti ydy’r lle saff i mi ddianc iddo pan dw i mewn trafferthion. Bydd cenhedloedd o bob rhan o’r byd yn dod atat ti ac yn dweud: ‘Roedd ein hynafiaid wedi’u magu i addoli delwau diwerth, pethau da i ddim oedd yn gallu helpu neb. Ydy pobl yn gallu gwneud eu duwiau eu hunain? Na! Dydy pethau felly ddim yn dduwiau go iawn.’” ARGLWYDD “Felly, dw i’n mynd i’w dysgu nhw,” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i’n mynd i ddangos iddyn nhw unwaith ac am byth mor gryf ydw i, a byddan nhw’n gwybod mai’r ARGLWYDD ydy fy enw i.”
Jeremeia 16:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ARGLWYDD, fy nerth a'm cadernid, fy noddfa mewn dydd o flinder, atat ti y daw'r cenhedloedd, o gyrion pellaf byd, a dweud, “Diau i'n hynafiaid etifeddu celwydd, oferedd, a phethau di-les. A wna rhywun dduw iddo'i hun? Nid yw'r rhain yn dduwiau.” “Am hynny, wele, paraf iddynt wybod; y waith hon mi ddangosaf iddynt fy nerth a'm grym. A deallant mai'r ARGLWYDD yw fy enw.”
Jeremeia 16:19-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O ARGLWYDD, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt. A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau? Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chânt wybod mai yr ARGLWYDD yw fy enw.