Jeremeia 17:11-18
Jeremeia 17:11-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae pobl sy’n gwneud arian drwy dwyll fel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo’u dodwy. Byddan nhw’n colli’r cwbl yn annisgwyl, ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.” “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wych, yn uchel o’r dechrau cyntaf: ti ydy’r lle saff i ni droi! ARGLWYDD, ti ydy gobaith Israel, a bydd pawb sy’n troi cefn arnat ti yn cael eu cywilyddio. ARGLWYDD Byddan nhw’n cael eu cofrestru ym myd y meirw am iddyn nhw droi cefn arna i, yr ARGLWYDD, y ffynnon o ddŵr glân croyw.” “ARGLWYDD, dim ond ti sy’n gallu fy iacháu; dim ond ti sy’n gallu fy achub. Ti ydy’r un dw i’n ei foli! Gwrando beth maen nhw’n ddweud wrtho i! ‘Beth am y neges yma gest ti gan yr ARGLWYDD? Tyrd! Gad i ni ei weld yn digwydd!’ Gwnes i dy annog i atal y dinistr. Doedd gen i ddim eisiau gweld y diwrnod o drwbwl di-droi’n-ôl yn cyrraedd. Ti’n gwybod yn iawn beth ddwedais i. Roedd y cwbl yn agored o dy flaen di. Paid dychryn fi; ti ydy’r lle saff i mi guddio pan mae pethau’n ddrwg arna i. Gwna i’r rhai sy’n fy erlid i gywilyddio; paid codi cywilydd arna i. Gad iddyn nhw gael eu siomi; paid siomi fi. Tyrd â’r dyddiau drwg arnyn nhw, a dinistria nhw’n llwyr!”
Jeremeia 17:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd, y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn; yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef, a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd. Gorsedd ogoneddus, ddyrchafedig o'r dechreuad, dyna fan ein cysegr ni. O ARGLWYDD, gobaith Israel, gwaradwyddir pawb a'th adawa; torrir ymaith oddi ar y ddaear y rhai sy'n troi oddi wrthyt, am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw. Iachâ fi, O ARGLWYDD, ac fe'm hiacheir; achub fi, ac fe'm hachubir; canys ti yw fy moliant. Ie, dywedant wrthyf, “Ple mae gair yr ARGLWYDD? Deued yn awr!” Ond myfi, ni phwysais arnat i'w drygu, ac ni ddymunais iddynt y dydd blin. Gwyddost fod yr hyn a ddaeth o'm genau yn uniawn ger dy fron. Paid â bod yn ddychryn i mi; fy nghysgod wyt ti yn nydd drygfyd. Gwaradwydder f'erlidwyr, ac na'm gwaradwydder i; brawycher hwy, ac na'm brawycher i; dwg arnynt hwy ddydd drygfyd, dinistria hwy â dinistr deublyg.
Jeremeia 17:11-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd. Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni. O ARGLWYDD, gobaith Israel, y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw. Iachâ fi, O ARGLWYDD, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant. Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr ARGLWYDD? deued bellach. Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di. Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd. Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg.