Jeremeia 17:5-6
Jeremeia 17:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ARGLWYDD “Melltith ar y rhai sy’n trystio pobl feidrol a chryfder dynol, ac sydd wedi troi cefn arna i. Byddan nhw’n sych fel prysglwyn ar dir anial, heb ddim gobaith i’r dyfodol. Byddan nhw’n aros yn yr anialwch poeth, mewn tir diffaith lle does neb yn gallu byw.
Jeremeia 17:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Melltigedig fo'r sawl sydd â'i hyder mewn meidrolyn, ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo, ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch; ni fydd yn gweld daioni pan ddaw. Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch, mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.
Jeremeia 17:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr ARGLWYDD. Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyfanheddol.