Jeremeia 22:15-16
Jeremeia 22:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydy bod â mwy o baneli cedrwydd yn dy wneud di’n well brenin? Meddylia am dy dad. Roedd e’n hapus os oedd ganddo fwyd a diod. Roedd yn gwneud beth oedd yn gyfiawn ac yn deg, ac roedd pethau’n mynd yn dda gydag e. Roedd yn amddiffyn hawliau pobl dlawd ac anghenus, ac roedd pethau’n mynd yn dda. Onid dyna beth mae fy nabod i yn ei olygu?” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Jeremeia 22:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A wyt yn d'ystyried dy hun yn frenin oherwydd i ti gystadlu mewn cedrwydd? Oni fwytaodd dy dad, ac yfed, gan wneud cyfiawnder a barn, ac yna bu'n dda arno? Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus, ac yna bu'n dda arno. “Onid hyn yw f'adnabod i?” medd yr ARGLWYDD.
Jeremeia 22:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo? Efe a farnodd gŵyn y tlawd a’r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr ARGLWYDD