Jeremeia 23:3-4
Jeremeia 23:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond dw i’n mynd i gasglu’r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i’n eu casglu nhw o’r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a’u harwain nhw yn ôl i’w corlan. Byddan nhw’n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw. Bydda i’n penodi arweinwyr fydd yn gofalu’n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i’w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai’r ARGLWYDD.
Jeremeia 23:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yr wyf fi am gasglu ynghyd weddill fy mhraidd o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, a'u dwyn drachefn i'w corlan; ac fe amlhânt yn ffrwythlon. Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy,” medd yr ARGLWYDD.
Jeremeia 23:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wledydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhânt ac y chwanegant. Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a’u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr ARGLWYDD.