Jeremeia 29:11-14
Jeremeia 29:11-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fi sy’n gwybod beth dw i wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i’n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi. Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i’n gwrando. Os byddwch chi’n chwilio amdana i o ddifri, â’ch holl galon, byddwch chi’n fy ffeindio i. Bydda i’n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai’r ARGLWYDD. “Bydda i’n rhoi’r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i’n eich casglu chi yn ôl o’r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i’n dod â chi adre i’ch gwlad eich hunain.”
Jeremeia 29:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol. Yna galwch arnaf, a dewch i weddïo arnaf, a gwrandawaf arnoch. Fe'm ceisiwch a'm cael; pan chwiliwch â'ch holl galon fe'm cewch,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,’ medd yr ARGLWYDD; ‘ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.’
Jeremeia 29:11-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi, medd yr ARGLWYDD, meddyliau heddwch ac nid niwed, i roddi i chwi y diwedd yr ydych chwi yn ei ddisgwyl. Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch, ac y gweddïwch arnaf fi, a minnau a’ch gwrandawaf. Ceisiwch fi hefyd, a chwi a’m cewch, pan y’m ceisioch â’ch holl galon. A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr ARGLWYDD, a mi a ddychwelaf eich caethiwed, ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd, ac o’r holl leoedd y rhai y’ch gyrrais iddynt, medd yr ARGLWYDD; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono.